P-04-552 Diogelu Plant
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a chryfhau meini prawf diogelu plant ac ystyried sefydlu corff rheoleiddio ar gyfer Cymru Dylai hwn geisio sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am blant, p’un ai mewn ysgolion, clybiau ieuenctid neu elusennau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar blant, neu’n bobl sy’n dod i gysylltiad â nhw neu’n sy’n cael eu gwahodd atynt fel noddwyr, llywodraethwyr, cenhadon, swyddogion cyhoeddus neu unrhyw un a benodir gan elusennau plant yn cael eu hasesu i benderfynu a yw’n addas iddynt weithio gyda phlant neu o’u hamgylch.
Gwybodaeth ychwanegol: Ar hyn o bryd, nid yw’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn archwilio cefndir cynghorwyr lleol, cynghorwyr sir na’r rhai a benodir yn genhadon neu’n gadeiryddion elusennau plant. Mae rhwydd hynt i’r rhain ddod i gysylltiad â phlant oherwydd eu swyddi. O ystyried achosion Jimmy Saville ac Ian Watkins, a wnaiff Llywodraeth Cymru yn awr gydnabod na allwn bellach dderbyn pobl yn gibddall ar sail eu henwogrwydd neu eu safle cymdeithasol a chaniatáu iddynt ymwneud â phlant.
Prif ddeisebydd: Montessori Centre Wales
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer y llofnodion: 40